Pysgota
Mae'r dyfroedd yng Nghastell-nedd Port Talbot yn cynnig pysgota
bras, pysgota gêm a physgota môr, gan ddarparu ar gyfer pysgotwyr
hamdden a physgotwyr o ddifrif.
Bras
Mae Camlas Nedd yn cynnwys rhufellod,
carpiaid, merfogiaid, ysgretennod a llyswennod ac mae gan Gamlas
Tennant benhwyaid, rhuddbysgod ac ysgretennod i bysgotwyr eu
mwynhau.
Mae Ystâd y Gnoll yn adnabyddus am ei garpiaid
a rhuddbysgod mawr ac mae ar agor i bysgotwyr o ddiwedd mis Mehefin
tan ganol mis Mawrth.
Mae dau bwll mawr ym Mharc Gwledig Margam sy'n
cael eu rheoli fel pysgodfeydd bras, ac mae trwyddedau pysgota
dyddiol ar gael o'r parc.
Ym Mhyllau Glyncorrwg, mae'r ddau lyn bras yn
llawn merfogiaid, rhufellod ac ysgretennod yn ogystal â charpiaid
sy'n pwyso hyd at 38lb.
Gêm
Mae brithyllod brown ac eogiaid ar gael yn
afonydd Nedd, Dulais ac Afan. Hefyd ceir brithyllod môr (sewin) yn
afonydd Nedd ac Afan.
Cronfa Ddŵr Eglwys Nynnid, a reolir gan
Gymdeithas Pysgota Gêm Corus, yw’r lle i bysgota am frithyllod
seithliw, brithyllod brown a brithyllod glas.
Ym Mhyllau Glyncorrwg mae trydydd llyn sy'n
cael ei lenwi gyda brithyllod seithliw sy'n pwyso hyd at 25lb.
Môr
Gellir pysgota trwy’r flwyddyn ar Draeth
Aberafan am ddraenogiaid môr, lledod a phenfreision, gyda mecryll
yn yr haf a swtain yn y gaeaf. Mae'r doc sych ym Mhort Talbot yn
arbennig o dda ar gyfer pysgota am ferfogiaid.
I gael rhestr o glybiau pysgota a grwpiau
pysgota eraill yng Nghastell-nedd Port Talbot, cyfeiriwch at yr
adran Bysgota yn Arweiniad Chwaraeon Dŵr Castell-nedd Port
Talbot.