Cerdded
Gyda theithiau cerdded hardd heibio'r sgydau, parciau gwledig,
llwybrau halio, promenâd glan môr a hawliau tramwy drwy rai o
dirweddau mwyaf ysblennydd Castell-nedd Port Talbot, Bannau
Brycheiniog ac Abertawe, mae amrywiaeth enfawr o olygfeydd i'w
mwynhau.

Llwybrau
Gyda mwy na thri chwarter y wlad wedi’i gorchuddio gan fryniau a
dyffrynnoedd coediog, mae’n hawdd gweld pam mae Castell-nedd Port
Talbot yn gyrchfan i gerddwyr o bob oed a gallu.
Mae'r dewis i ymwelwyr â Chastell-nedd Port Talbot yn
ddi-ben-draw gyda 14 llwybr cerdded â chyfeirbwyntiau ym
Mharc Coedwig Afan, 6 llwybr cerdded ym
Mharc Gwledig Margam, a llwybrau cerdded
amrywiol o amgylch y rhaeadrau yng Ngwlad y
Sgydau.
Created in June 2011 as part of the Wales Coast Path, the
Neath Port Talbot Coast Path will spoil walkers
with specatcular views of the Somerset and Devon coastline, as
well as the fine sweep of Swansea Bay and Mumbles.
Lawrlwythwch daflen y Deg Taith Gerdded Orau yma
neu casglwch gopi o'r Ganolfan Croeso lle mae'r llawlyfr ar gyfer
Teithiau Cerdded y Sgydau hefyd ar gael.
Awgrymiadau ar fannau cychwyn eich taith
gerdded...
Cyfleusterau
Mae ardal gaffi fach yn y canolfannau ymwelwyr uchod lle mae
bwyd a diod ar gael. Mae mannau eistedd ar hyd y rhan fwyaf o'r
teithiau cerdded sy'n addas ar gyfer picnic neu i gael egwyl fach i
werthfawrogi'r golygfeydd syfrdanol.
Cofiwch fod yn ofalus wrth gerdded a pharatoi'n ddigonol cyn
cychwyn gan ddilyn Rheolau Cefn Gwlad bob amser.
Mae'n bwysig bod ymwelwyr yn cadw Rheolau Cefn
Gwlad.
- Byddwch yn ddiogel - gan gynllunio ymlaen llaw a dilyn unrhyw
arwyddion
- Gadewch gatiau ac eiddo fel y maent
- Diogelwch blanhigion ac anifeiliaid ac ewch â'ch sbwriel
adref
- Cadwch eich cwn dan reolaeth bob amser
- Ystyriwch bobl eraill