Preifatrwydd ac Ymwadiad
Datganiad Preifatrwydd
Os ydych yn ddefnyddiwr sy'n cyrchu fel aelod o'r cyhoedd neu'n
anhysbys, nid yw gwefan Ymweld â Chastell-nedd Port Talbot yn
storio nac yn cipio gwybodaeth bersonol, ond yn cofnodi cyfeiriad
IP y defnyddiwr yn unig, sy'n cael ei adnabod yn awtomatig gan
weinydd y we*. Bydd y system yn cofnodi cyfeiriad eich e-bost a
gwybodaeth arall os byddwch yn ei rhoi i ni: Caiff honno ei
hystyried yn berchnogol ac yn gyfrinachol. Gellir ei defnyddio ar
gyfer adolygu mewnol a'ch hysbysu am ddiweddariadau ar y wefan.
Mae'r datganiad preifatrwydd hwn yn cwmpasu gwefan Ymweld â
Chastell-nedd Port Talbot yn unig yn www.visitneathporttalbot.co.uk, www.visitnpt.co.uk,
www.visitneathporttalbot.com,
www.visitnpt.com. Nid yw'r
datganiad hwn yn cwmpasu'r dolenni yn y safle i wefannau eraill.
* nid ydym yn defnyddio 'briwsion' ar gyfer casglu gwybodaeth am
ddefnyddwyr.
Ymwadiad
Darperir gwefan Ymweld â Chastell-nedd Port Talbot a deunyddiau
sy'n ymwneud â gwybodaeth am Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd
Port Talbot, ei gynnyrch a'i wasanaethau (neu wybodaeth, cynnyrch a
gwasanaethau trydydd parti), 'fel y mae' , heb unrhyw ddehongliad
nac ategiad a heb unrhyw warant o unrhyw fath naill ai uniongyrchol
yntau ymhlyg, gan gynnwys, ond heb ei gyfyngu i warantau ymhlyg
ynghylch safon foddhaol, priodoldeb at ddiben penodol, nad yw'n
torri amodau, cysondeb, diogelwch a chywirdeb. Nid ydym yn gwarantu
y bydd y swyddogaethau a gynhwysir yn y deunydd yn y safle hwn yn
ddi-ffael neu heb wall, nac y bydd diffygion yn cael eu cywiro, na
bod y safle neu'r gweinydd sy'n ei darparu yn rhydd o firysau nac
yn cynrychioli gallu swyddogaethol llawn, cywirdeb na dibynadwyedd
y deunyddiau. Ni fyddwn, o dan unrhyw amgylchiad, yn atebol am
unrhyw golled na niwed gan gynnwys, heb gyfyngiad, golled neu niwed
anuniongyrchol neu ganlyniadol, nac unrhyw golled neu niwed o gwbl
sy'n codi o ddefnyddio neu golli'r defnydd o ddata, neu elw yn sgîl
cysylltu â gwefan Ymweld â Chastell-nedd Port Talbot neu ei
defnyddio.