Sut i gyrraedd

Map of Neath Port Talbot

Map of Neath Port Talbot

Ar y ffordd

Mae cysylltiadau da gan y fwrdeistref sirol â rhannau eraill o'r DU ar hyd Traffordd yr M4, gan gysylltu'n uniongyrchol â Llundain a de-ddwyrain Lloegr. Mae ffordd yr A465 Blaenau'r Cymoedd yn gysylltiad effeithlon â Chanolbarth Lloegr a'r gogledd ar hyd yr M50, yr M5 a'r M6.

Gweler hefyd:
Traffic Wales

Brasamcan o Amserau Teithio ar y Ffordd

Pellter
(Milltiroedd)

Pellter
(Cilomedrau)

Amser

Birmingham

143

230

2 awr 40 munud

Bryste

81

130

1 awr 30 munud

Caerdydd

42

66

50 munud

Llundain

189

304

3 awr 30 munud

Ar y Trên

Mae Castell-nedd Port Talbot hefyd ar y rhwydwaith rheilffyrdd cenedlaethol ac mae gwasanaeth bob awr i Lundain-Paddington lle gellir cael cysylltiadau rheolaidd i fannau eraill o Brydain a chyfandir Ewrop.

Gweler hefyd:
Arriva Trains Wales

Mewn Awyren

Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd yw'r ail faes awyr rhanbarthol sy'n tyfu gyflymaf yn y DU ac yn ddarparwr gwasanaethau sylweddol i leoliadau ledled y byd - dim ond taith 50 milltir i ffwrdd.

Gweler hefyd:
Maes Awyr Caerdydd

Cludiant Cyhoeddus

Mae Traveline Cymru’n rhoi amserau a llwybrau pob gwasanaeth bws, coets, trên, fferi ac awyren yng Nghymru, ac yn cynnig system fapio gyfrifiadurol sy’n gallu lleoli i’r dim unrhyw leoliad neu safle bws yn y wlad.

Ffoniwch: 0871 200 22 33

www.traveline.info

Os ydych yn poeni am yr amgylchedd neu yn teimlo fel gadael y car ar ôl, mae gwefan Bay Trans yn rhoi cyngor i chi ar sut i deithio o amgylch yr ardal wrth ddefnyddio trafnidiaeth gynaliadwy.

Image: Contact Us
Call us for your useful guide to events, places to visit and things to do: 01639 636674.
S8080 Ltd