Canolfan Beicio Mynydd a Phyllau Glyncorrwg

Glyncorrwg
Glyncorrwg

Mae Canolfan Beicio Mynydd Glyncorrwg yng nghanol Cwm Afan ac mae'n cynnwys siop feiciau Skyline Cycles, gwersyllfa a Chaffi 'Drop Off'.

Mae caffi retro 'Drop Off' yn denu pobl o bob math o'r rhai sy'n meddwi ar adrenalin i bobl sy'n mynd â'r ci am dro a theuluoedd. Yng nghanol y goedwig, y feranda bren yw'r lle perffaith i ymlacio a phrofi un o ddiodydd poeth arbennig y caffi. I'r rhai sydd am ailborthi, mae amrywiaeth o fwyd iach a hyd yn oed dewis o gwrw i fynd gydag ef...

Os ydych yn ceisio penwythnos heddychlon bant neu egwyl o feicio egnïol, mae'r gwersyllfa (y tu ôl i'r ganolfan) yn cynnig llety syml.

Mae dau bwll yng Nglyncorrwg hefyd sy'n cael eu defnyddio ar gyfer pysgota a gweithgareddau dwr.

Mae Llogi Beiciau Mynydd Cwm Afan yng Nglyncorrwg yn cynnig opsiwn llogi, felly does dim esgus am beidio â chymryd rhan mewn penwythnos o antur!


Hygyrchedd: Yn hygyrch i bawb. Mae Beamer Tramper ar gael i’w logi.

Cysylltwch â: Canolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan ar 01639 850564
www.afanforestpark.co.uk

Bws: Gwasanaeth 23 bob awr o Bort Talbot dydd Llun – dydd Sadwrn, 159 o Abertawe neu Gastell-nedd, newid i wasanaeth cysylltu 23 ym Mhont-rhyd-y-fen

Mountain Biker in Afan Forest Park
Mountain Biker

Mae Llogi Beiciau Mynydd Cwm Afan yng Nglyncorrwg yn cynnig opsiwn llogi, felly does dim esgus am beidio â chymryd rhan mewn penwythnos o antur!

Hygyrchedd: Yn hygyrch i bawb. Cyfleusterau i'r anabl ar y safle.

Cysylltu: Canolfan Beicio Mynydd Glyncorrwg 01639 851900 01639 851900

 

http://www.glyncorrwgponds.com/

Dolenni Defnyddiol:

www.afanforestpark.co.uk

www.glyncorrwgponds.com

www.forestry.gov.uk

http://www.aswildasyouwantit.com/

Bws: 23 o Bort Talbot bob awr, newid i wasanaeth cysylltu 36 yn y Cymer. 159 o Abertawe neu Gastell-nedd, newid i 23 ym Mhont-rhyd-y-fen a 36 yn y Cymer, bob awr ddydd Llun – ddydd Sadwrn

Image: Contact Us
Call us for your useful guide to events, places to visit and things to do: 01639 636674.
S8080 Ltd