Camlesi Castell-nedd a Thennant
Mae dau ddarn o gamlas yng Nghastell-nedd Port Talbot, Camlas Nedd a Chamlas Tennant. Fe'u datblygwyd ar gyfer cludiant yn y diwydiannau gweithgynhyrchu cynnar fel gwneud briciau ac adeiladu llongau.
Heddiw, maent yn darparu teithiau cerdded ymdroellog ar hyd y llwybrau halio ac yn denu gyda'u harddwch naturiol, ond mae olion diwydiant cynnar i'w gweld hefyd. Mae hen dloty'r Undeb ac Eglwys Illtud Sant yn adleisiau amlwg o'r gorffennol.
Mae taith y cwch Thomas Dadford yn gadael basn B&Q bob dydd Sadwrn o fis Mehefin i fis Medi a phob dydd yn ystod gwyliau'r ysgol.
Ewch am dro neu feicio ar hyd ein camlesi, ac yn ystod misoedd yr haf, treuliwch brynhawn hamddenol yn cael eich tywys drwy hanes ar fwrdd y Thomas Dadford. Cewch eich synnu gan y bywyd gwyllt, yn arbennig y gwesynnod yn hedeg ger wyneb y dwr.
Newydd i 2009: Llwybr Trefdaeth newydd ar hyd Camlas Castell Nedd
Yn anffodus nid yw cwch Thomas Dadford yn rhedeg ar y foment ond mi fydd yn gweithredu eto yn 2010
Hygyrchedd: Mae’r adran sydd wedi’i hadfer i’r gogledd o Resolfen a Basn Aberdulais fel ei gilydd yn hygyrch i’r ymwelydd anabl.
Cysylltu: Am fwy o wybodaeth am amserau rhwng Ebrill a Mehefin 2009, cysylltwch â’r Ganolfan Croeso ar 01639 636674
www.neath-tennant-canals.org.uk
www.cordellcountry.org
Bws: X5 bob hanner awr o Abertawe a Chastell-nedd, dydd Llun i ddydd Sadwrn, X75 o Abertawe a Chastell-nedd, dydd Llun i ddydd Sadwrn, X55 bob 90 munud, o Abertawe a Chastell-nedd, dydd Llun i ddydd Sadwrn, 161 bob 2 awr o Gastell-nedd, dydd Llun-dydd Sadwrn