Mae Cymru'n lawog. Wel, mae'n bwrw glaw cryn dipyn yma. Ond nid yw hynny'n broblem yng Nghastell-nedd Port Talbot, oherwydd mae llawer o'n hatyniadau naturiol yn gallu edrych yn harddach yn y glaw. Daw gwlad y sgydau'n fyw wedi'r glaw trwm, a gall gwylio storm yn dynesu ar draws y bae yn Aberafan fod yn gymaint o falm i'r enaid â gwylio machlud haul yr haf.
Ar y llaw arall, rydym ni'n deall i'r dim sut y gall dyn gael llond bol ar y glaw, felly mae digon o weithgareddau dan do yma hefyd. Beth am ddiwrnod ar y llithrenni yn yr Aquadome, bore o dan ddaear yng Nglofa Cefn Coed neu noson o wylio drama yn y theatr? Mae cymaint o gyfleoedd i chi gau'ch ymbarèl ac ymlacio dan do.
Dyma rai awgrymiadau o'r hyn y gallwch ei wneud