Mae Castell-nedd Port Talbot yn cynnig cyfleoedd di-ri i deuluoedd i fynd i'r awyr agored, cymryd rhan ac yn bwysicaf oll, mwynhau eu hunain.
Gallwch reidio beic ym Mharc Coedwig Afan, adeiladu castell tywod ar draeth Aberafan, gwlychu wrth archwilio rhaeadrau, neu ymweld ag un o'n Parciau Gwledig.
Yng Nghastell-nedd Port Talbot, mae digon o bethau i'w gwneud dan do hefyd a chyda digwyddiadau ar hyd y flwyddyn, mae rhywbeth llawn hwyl yn digwydd i deuluoedd ei fwynhau.