Pontardawe yw calon Cwm Tawe, ac wrth gyrraedd y dref dros y bont hanesyddol, y tirnod sy'n eich taro yw twr pigfain tal 197 troedfedd eglwys San Pedr.
Mae Canolfan Celfyddydau Pontardawe yng nghanol y dref ac wedi ennill enw fel un o ganolfannau diwylliannol gorau de Cymru sy'n denu perfformwyr o bedwar ban y byd.
Daw Gwyl Gelfyddydau Pontardawe â lliw a bywiogrwydd unigryw i'r dref ym mis Awst. Felly, cydiwch yn eich pabell a'ch banjo! A dewch i ymuno yn y dawnsio!