Ystâd y Gnoll
Roedd Ystâd y Gnoll ar un adeg yn eiddo i deulu diwydiannol cyfoethog Mackworth. Heddiw, mae'r parc wedi'i ddatblygu fel parc i'r teulu ond mae'n dal i gadw ei nodweddion gwreiddiol. Mae gennym bedwar llyn hwyaid mawr, dwy raeadr o'r 18fed ganrif ac adfeilion Ty'r Gnoll.
Ewch am dro o gwmpas y parc a chicio pêl yn ein caeau agored. Gofynnwch i un o'n wardeniaid am yr 'ha-ha' a'r groto, mannau anghyffredin a grëwyd yng ngardd 'enfawr' y Mackworths.
Yn y parc, mae canolfan i ymwelwyr, caffi, ardal chwarae i blant ac ardal chwarae antur. Mae mynediad a pharcio ceir am ddim, felly, dewch i fwydo'n hwyaid. Maen nhw wastad yn barod am fwyd!
Hygyrchedd: Mae rhannau helaeth o’r Parc yn hwylus i bawb. Mae Beamer Tramper ar gael i’w logi.
Cysylltwch â: Y Ganolfan Ymwelwyr ar 01639 635 808
Bws: Gwasanaeth X5 bob hanner awr o Abertawe ddydd
Llun – dydd Sadwrn neu Gwasanaeth 158 bob awr ddydd Sul.