Os ydych chi'n chwilio am ddiwrnod o hwyl gyda'r teulu, yna Parc Gwledig Margam amdani! Mewn 1,000 erw o barcdir, rydym yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau dethol. Ystyriwch. Ble arall y cewch chi fwydo hyddgre Cymreig ac archwilio hen blasty Tuduraidd-Gothig o oes Victoria?
Gallwch dreulio'r bore ar gwest hanes, yn ein Cabidyldy o'r 12fed ganrif, Orendy o'r 18fed ganrif a Chastell Margam iasol. Yna, treulio'r prynhawn yn ymlacio yn ein Gerddi Addurnol, neu fynd am dro/feicio ar hyd un o'n llwybrau dirgel.
Hygyrchedd: Mae rhannau helaeth o’r parc yn hwylus i bawb.
Mae Beamer Tramper a chadeiriau olwyn ar gael i’w llogi a’u defnyddio.
Cysylltu: Parc Gwledig Margam 01639 881635
Bws: X1, 224 o Abertawe neu Bort Talbot 2 yr awr dydd Llun - dydd Sadwrn