Cyfweliad ag R. James Trowell

Cyfweliad ag Rhiannon James Trowell

Cafodd Richard Burton ei fagu gan ei chwaer hŷn Cecilia (Cis) ar ôl i'w fam farw pan oedd yn 2 flwydd oed. Daeth Richard yn fab i Cis a chafodd ei fagu ynghyd â'i nith Rhiannon a'i chwaer Marion. Magwyd Richard a Rhiannon fel brawd a chwaer.

Yn y cyfweliad hwn, mae Rhiannon yn hel atgofion annwyl am ei hewythr.

Sut byddech yn disgrifio Richard?
"Difyr, hael a charedig. Raconteur!"

Sut roedd Richard fel brawd hŷn (ewythr)?
"Roedd yn arfer mynd â fi a'm chwaer Marion i'r lle chwarae yn Nhai-bach. Rwy'n siŵr y byddai'n well ganddo chwarae rygbi gyda'i ffrindiau ond roedd cariad a pharch mawr ganddo at fy mam a byddai'n rhoi help llaw pan fo angen."

"Roedd hefyd yn barod i'n helpu gyda'n gwaith cartref, er bod angen ei ddeall y tro cyntaf gan nad oedd llawer o amynedd gyda fe."
"O bryd i'w gilydd byddai'n gofalu amdanom pan fyddai fy rhieni'n mynd i ymarfer gyda'r côr a byddai'n adrodd storïau wrthym a oedd yn ein gwefreiddio, yn enwedig ei storïau am ysbrydion (ar un adeg roedd wedi'i orchuddio'i hun â llen a oedd yn arswydus iawn). Roedd y rhain yn llawn effeithiau sain lleisiol megis byrddau llawr yn gwichian ac ysbrydion yn oernadu. Doedd fy rhieni ddim yn hapus pan gyrhaeddon nhw'r tŷ a gweld ein bod yn gwbl effro ac yn gynnwrf i gyd."

A oedd Richard am fod yn actor erioed?
"Yn ei arddegau cynnar, roedd am fod yn athro ysgol ond gyda threigl amser, roedd wedyn am fod yn awdur."

A oedd hoff lyfr gan Richard?
"Roedd wastad llyfr yn llaw Rich a byddai'n darllen nes oriau mân y bore. Byddai fy nhad, a oedd yn löwr, yn codi am 5.30am am ei shifft ac yn dod ar draws Rich yn darllen o hyd mewn cadair lawr llawr. Roedd yn dwlu ar farddoniaeth ers ei blentyndod, ond alla'i ddim cofio a oedd ganddo hoff fardd neu awdur. Ond byddai'n treulio llawer o oriau yn Llyfrgell Carnegie Tai-bach ym Mhort Talbot".

"Roedd hefyd yn barod i'n helpu gyda'n gwaith cartref, er bod angen ei ddeall y tro cyntaf gan nad oedd llawer o amynedd gyda fe."
"O bryd i'w gilydd byddai'n gofalu amdanom pan fyddai fy rhieni'n mynd i ymarfer gyda'r côr a byddai'n adrodd storïau wrthym a oedd yn ein gwefreiddio, yn enwedig ei storïau am ysbrydion (ar un adeg roedd wedi'i orchuddio'i hun â llen a oedd yn arswydus iawn). Roedd y rhain yn llawn effeithiau sain lleisiol megis byrddau llawr yn gwichian ac ysbrydion yn oernadu. Doedd fy rhieni ddim yn hapus pan gyrhaeddon nhw'r tŷ a gweld ein bod yn gwbl effro ac yn gynnwrf i gyd."

A oedd Richard am fod yn actor erioed?
"Yn ei arddegau cynnar, roedd am fod yn athro ysgol ond gyda threigl amser, roedd wedyn am fod yn awdur."

A oedd hoff lyfr gan Richard?
"Roedd wastad llyfr yn llaw Rich a byddai'n darllen nes oriau mân y bore. Byddai fy nhad, a oedd yn löwr, yn codi am 5.30am am ei shifft ac yn dod ar draws Rich yn darllen o hyd mewn cadair lawr llawr.
Roedd yn dwlu ar farddoniaeth ers ei blentyndod, ond alla'i ddim cofio a oedd ganddo hoff fardd neu awdur. Ond byddai'n treulio llawer o oriau yn Llyfrgell Carnegie Tai-bach ym Mhort Talbot ".

Beth yw eich hoff atgofion am Richard?
"Roedd ein cyfarfod olaf oddeutu blwyddyn a hanner cyn iddo farw. Ar y pryd, roedd Rich wedi bod yn cael poen yn ei gefn a'i wddf a doedd e ddim mewn iechyd da o gwbl. Roedd yn treulio ychydig ddyddiau gyda fy mam yn Hadley Wood, Hertfordshire, a chan mod i'n byw drws nesaf i'm mam ac yn rhannu gardd â hi, roeddem yn gweld cryn dipyn ohono bryd hynny. Doedd dim gosgordd ganddo, dim ffotograffwyr, dim gwasg, dim ond Rich a'r teulu yn cael amser tawel gyda'i gilydd, a oedd yn anghyffredin. Roedd Marian, Rich a minnau'n eistedd yn yr ardd ar brynhawn heulog gan hel atgofion. Fe wnaethom siarad am ein mam ryfeddol a'i dawn i wneud y tri ohonom deimlo'n arbennig. Roedd pob un ohonom wedi teimlo'n ddirgel mai nhw oedd y ffefryn."

Cecilia (Cis), chwaer hŷn Richard Burton. Llun trwy garedigrwydd Graham Jenkins"Yn llyfr Rich, 'A Christmas Story', cyfrif lled-hunangofiannus wedi'i seilio'n fras ar fy ngeni ar 24 Rhagfyr, ysgrifennodd am ein mam gan ddweud, "Now my sister was no ordinary woman - no woman ever is, but to me, my sister less than any. When my mother had died, she, my sister, had become my mother, and more mother to me than any mother could ever have been. I was immensely proud of her. I shone in the reflection of her green-eyed, black-haired, gypsy beauty."