Beicio

Mae beicio yn ffordd wych o dreulio amser yn yr awyr agored, cael ymarfer corff a gweld rhannau o Gastell-nedd Port Talbot. Mae amrywiaeth o lwybrau beicio diogel sy'n ddelfrydol i deuluoedd, o hen draciau rheilffordd i lwybrau halio tawel ar hyd camlesi.
Drwy ddefnyddio'r wybodaeth a ganlyn, gallwch ddewis llwybr sy'n addas i chi.
Llwybrau
Gallwch gael manylion llawn a map o'r llwybrau beicio yng Nghastell-nedd Port Talbot drwy fynd i wefan Cyngor Castell-nedd Port Talbot.
Amlinellir rhai o'r llwybrau gorau yng Nghastell-nedd Port Talbot isod.
Parc Coedwig Afan
Mae llwybrau beicio ar dir isel ym Mharc Coedwig Afan, sy'n mynd ar hyd llawr y dyffryn, yn boblogaidd iawn. Mae llwybr gwych i'r teulu gyda mannau aros am bicnic a lluniaeth ar y ffordd, yn 36km i gyd.
Llwybr Cwm Tawe

Mae Llwybr Beicio Cwm Tawe’n rhan o Lwybr 43 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, sy’n mynd drwy ganol Cwm Tawe o Drebannws i Ystalyfera. Mae’r llwybr ger yr afon yma’n dechrau yn Nhrebannws, ac yn mynd drwy dref ddeniadol Pontardawe cyn mynd i gyfeiriad y gogledd i Ystalyfera.
Y Lôn Geltaidd

Mae'r Lôn Geltaidd yn rhan o'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol ac yn un o'r darnau mwy hamddenol a phleserus. Mae'n mynd â chi ar hyd promenâd Aberafan gyda golygfeydd gwych ar draws Bae Abertawe.
Y Lefelau Uchel

I gael rhywbeth ychydig mwy anturus, beth am roi cynnig ar y Lefel Uchel o Gwm Rhondda i lawr i harddwch Cwm Nedd gan ddilyn llwybr y gamlas o Donna i Lansawel.
I gael rhagor o lwybrau hygyrch yng Nghastell-nedd Port Talbot, ewch i www.npt.gov.uk/cycling
Os ydych yn beicio yn ardaloedd y coedwigoedd, dilynwch Reolau Diogelwch Beicio yn y Goedwig, sef:
- Byddwch yn barod am yr annisgwyl! Peidiwch â mynd yn rhy gyflym
- Cofiwch fod cerbydau eraill yn defnyddio ffyrdd y goedwig!
- Ildiwch i gerddwyr, a byddwch yn gwrtais i ddefnyddwyr eraill y goedwig
- Peidiwch â mynd yn agos at waith yn y goedwig
- Beiciwch yn ofalus
- Peidiwch â goddiweddyd cerbyd sy’n llwytho coed nes i chi gael caniatâd i wneud hynny.
Er eich diogelwch eich hun wrth feicio mewn ardaloedd eraill, dilynwch reolau'r ffordd fawr.
Linciau defnyddiol