Cerdded
Gyda theithiau cerdded hardd heibio'r sgydau, parciau gwledig, llwybrau halio, promenâd glan môr a hawliau tramwy drwy rai o dirweddau mwyaf ysblennydd Castell-nedd Port Talbot, Bannau Brycheiniog ac Abertawe, mae amrywiaeth enfawr o olygfeydd i'w mwynhau.

Llwybrau
Gyda mwy na thri chwarter y wlad wedi’i gorchuddio gan fryniau a dyffrynnoedd coediog, mae’n hawdd gweld pam mae Castell-nedd Port Talbot yn gyrchfan i gerddwyr o bob oed a gallu.
Ar gyfer manylion rhai o'r llwybrau cerdded gorau yng Nghastell-nedd Port Talbot, gan gynnwys mapiau a chardiau llwybrau, gweler map cerdded rhyngweithiol Castell-nedd Port Talbot.
Awgrymiadau ar fannau cychwyn eich taith gerdded...
Cofiwch fod yn ofalus wrth gerdded a pharatoi'n ddigonol cyn cychwyn gan ddilyn Rheolau Cefn Gwlad bob amser.
Mae'n bwysig bod ymwelwyr yn cadw Rheolau Cefn Gwlad.
- Byddwch yn ddiogel - gan gynllunio ymlaen llaw a dilyn unrhyw arwyddion
- Gadewch gatiau ac eiddo fel y maent
- Diogelwch blanhigion ac anifeiliaid ac ewch â'ch sbwriel adref
- Cadwch eich cwn dan reolaeth bob amser
- Ystyriwch bobl eraill