Port Talbot
Datblygodd Port Talbot fel tref ddiwydiannol oherwydd ei safle
ar lannau'r Afan. Heddiw, mae Pont y Stryd Fawr yn cysylltu'r dref
â'r ganolfan siopa sydd newydd ei hadnewyddu.

Mae Theatr y Dywysoges Frenhinol yn ganolfan ddiwylliannol sy'n
cyflwyno adloniant o sioeau cerdd i bantomeimiau.
Dydd Sadwrn a dydd Mawrth yw diwrnodau'r farchnad awyr agored,
felly lawr â chi i'r dref i gael bargen.