Camlesi Castell-nedd a Thennant

Mae dau ddarn o gamlas yng Nghastell-nedd Port Talbot, Camlas Nedd a Chamlas Tennant. Fe'u datblygwyd ar gyfer cludiant yn y diwydiannau gweithgynhyrchu cynnar fel gwneud briciau ac adeiladu llongau.
Ewch am dro neu feicio ar hyd ein camlesi. Cewch eich synnu gan y bywyd gwyllt, yn arbennig y gwesynnod yn hedeg ger wyneb y dwr.
Hygyrchedd: Mae’r adran sydd wedi’i hadfer i’r gogledd o Resolfen a Basn Aberdulais fel ei gilydd yn hygyrch i’r ymwelydd anabl.