Sut i gyrraedd
Ar y ffordd
Mae gan y fwrdeistref sirol gysylltiadau da â rhannau eraill o'r DU trwy draffordd yr M4, sy'n rhoi mynediad uniongyrchol o Lundain a De-ddwyrain Lloegr. Mae llwybr A465 (Blaenau'r Cymoedd) yn rhoi cysylltiad cyflym o Ganolbarth Lloegr a Gogledd Lloegr trwy'r M50, M5 a'r M6.
Gweler hefyd:
Brasamcan o Amserau Teithio ar y Ffordd
|
Pellter (Milltiroedd) |
Pellter (Cilomedrau) |
Amser |
Birmingham |
143 |
230 |
2 awr 40 munud |
Bryste |
81 |
130 |
1 awr 30 munud |
Caerdydd |
42 |
66 |
50 munud |
Llundain |
189 |
304 |
3 awr 30 munud |
Ar y Trên
Mae gorsafoedd trenau mewn lleoliad canolog yng Nghastell-nedd a Phort Talbot. Mae cysylltiadau mynych â phob rhanbarth o'r DU naill ai'n uniongyrchol neu drwy newid unwaith. Mae cysylltiadau awyr/trên ardderchog o feysydd awyr Heathrow a Gatwick yn Llundain, Bryste a Chaerdydd.
Gweler hefyd:
Mewn Awyren
Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd yw'r ail faes awyr rhanbarthol sy'n tyfu gyflymaf yn y DU ac yn ddarparwr gwasanaethau sylweddol i leoliadau ledled y byd - dim ond taith 50 milltir i ffwrdd.
Gweler hefyd:
Cludiant Cyhoeddus
Mae rhwydwaith helaeth o fysus lleol yn gwasanaethu Castell-nedd, Port Talbot a chymoedd Dulais, Nedd ac Afan .
Gweler hefyd:
Wrth brynu tocyn i Gastell-nedd neu Bort Talbot o unrhyw orsaf ar y tir mawr yn y DU, gofynnwch am docyn Plus Bus i deithio ymlaen i gymoedd Afan, Dulais a Nedd.
Opsiynau Teithio Cynaliadwy
Fyddwch yn cyrraedd ar y trên neu'r goets ag angen mynd o le i le yng Nghastell-nedd, Port Talbot a'r cymoedd? Fyddwch yn dod yn y car ac eisiau seibiant o yrru tra'ch bod yma?
Teithio i Fae Abertawe a'r cyffiniau ar gludiant cyhoeddus: cewch yr holl wybodaeth ar BayTrans