Pethau i'w Gwneud
Mae amrywiaeth mawr o bethau i'w gwneud yng Nghastell-nedd Port Talbot. Gyda llwybrau beicio mynydd ym Mharc Coedwig Afan sy'n cael eu hystyried ymhlith y gorau yn y byd a llwybrau cerdded sy'n cynnig cyfleoedd i bob gallu, mae llawer o hwyl i'w gael yn yr awyr agored yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Mae canolfannau gweithgareddau ar draws yr ardal sy'n cynnig popeth o feicio cwad a saethyddiaeth i bysgota a marchogaeth. Mae cyfleusterau golff da iawn hefyd!
Cliciwch ar y dolenni ar y chwith i gael manylion am yr holl weithgareddau sydd ar gael yn yr ardal.
