Mae’r dyffryn coediog hyfryd hwn sy’n arwain o’r Groes yng nghanol Pontardawe yn cynnig taith gerdded braf ar hyd nant Clydach a thrwy Blanhigfa Glanrhyd.
Roedd y Blanhigfa unwaith yn rhan o dir Tˆy Glanrhyd sydd bellach yn adfail. Cafodd y tˆy gwych ei adeiladu gan ddiwydiannwr lleol, Arthur Gilbertson, ym 1878. Cafodd ei ddefnyddio fel ysbyty yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a chafodd ei ddymchwel ym 1968.
Erbyn hyn mae Cwm Du’n cael ei ddefnyddio gan bobl Pontardawe fel man heddychlon a hardd i fynd i gerdded.
I lawrlwytho map ar gyfer y llwybr hwn, ewch i
www.npt.gov.uk/walking